Y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

4 Mawrth 2014

 

Yn bresennol

 

Ann Jones (Cadeirydd)

Donna Cushing (Ysgrifennydd sy'n gyfrifol am y Cofnodion)

Rachael Earp (Ysgrifenyddiaeth)

 

 

Cynrychiolwyr/rhanddeiliaid

 

Richard Williams

Jacqui Bond

Michelle Fowler-Powe

Norman Moore

Meryl Roberts

Jayne Dulson

Elin Wyn

Barbara Rees

Nigel Williams

Ross Evans

 

 

Aelodau'r Cynulliad

 

Mark Isherwood

 

Cymorth cyfathrebu

 

Rachel Smith (Dehonglydd)

Claire Anderson (Dehonglydd)

Grace Garnett (Gwefuslefarydd)

Hilary Maclean (Palanteipydd)

 

 

1.      Croeso ac ymddiheuriadau

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gofynnodd a oedd yr ystafell gyfarfod hon yn well na'r ystafell bwyllgor arferol, oherwydd bydd yn ceisio ei threfnu ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol os oedd yr aelodau'n gytûn.  Cytunodd yr holl aelodau.  Yn ogystal, bydd y Cadeirydd yn holi cymorth technegol ynghylch y problemau gyda'r ddolen.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Jim Edwards a Gill Hadfield.

 

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2013.

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

 

2.      Camau i'w cymryd ers y cyfarfod diwethaf yng Nghaerdydd.

 

Roedd y wybodaeth ynghylch y camau i'w cymryd ers y cyfarfod diwethaf eisoes wedi'i dosbarthu.  Mae hyn ar yr agenda i'w drafod.

 

 

3.      Ail-asesu cymhorthion clyw – Ymateb y Byrddau Iechyd

 

          Dywedodd Richard Williams y croesawyd adborth a bod y grŵp yn disgwyl am ymatebion gan fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda. Fodd bynnag, roedd tri mater yr oedd angen mynd i'r afael â hwy.

 

·         Mae'r amseroedd aros yn rhy hir – yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf awgrymwyd ei fod hyd at flwyddyn mewn rhai achosion.

·         Nid oes unrhyw broses strwythuredig ar waith i alw cleifion yn ôl. Cyfrifoldeb y cleifion eu hunain yw gwneud apwyntiad i ddychwelyd o fewn tair blynedd.  Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer cleifion, a dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n tynnu sylw at hyn ar ei wefan.

·         Nid yw'r ystadegau ar gyfer ail-asesu yn cyfateb â'r amcanestyniadau cynyddol o'r boblogaeth hŷn.  Mae'n ymddangos bod y ffigurau a gafwyd gan y byrddau iechyd yn awgrymu i'r gwrthwyneb.  Mae angen mynd i'r afael â hyn.

 

Dywedodd Norman Moore bod Cyngor Cymru i Bobl Fyddar yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.  Y gobaith yw sefydlu system lle y gellir galw cleifion yn ôl am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol o fewn chwe wythnos ar ôl iddynt gael cymorth clyw, ac i fynd i'r afael â materion gydag unigolion o faes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.  Yna gellir cyfeirio cleifion i gael cymorth lle maent ei angen fwyaf.  Nid yw ffurf y cynllun wedi'i gwblhau eto ac os bydd yn llwyddiannus caiff ei fabwysiadu a'i gyflwyno mewn ardaloedd eraill.

 

Soniodd Richard Williams hefyd am y safonau ansawdd sydd ar hyn o bryd yn cael eu hadolygu gan y byrddau iechyd ac sydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.  Dywedodd Richard y byddai hyn yn gyfle i sicrhau bod y safonau'n gyfeillgar i gleifion ac yn briodol o ran eu hiaith, ac i sicrhau eu bod ar gael ar eu gwefan.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n cysylltu â byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda i gael eu hymateb, a gofyn i'r holl fyrddau iechyd sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gyfer cleifion ar gael ar eu gwefannau.

 

 

4.      Y diweddaraf am y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

 

          Dywedodd y Cadeirydd wrth y rhai a oedd yn bresennol, bod y Bil wedi mynd yn ôl i gyfnod adrodd y broses oherwydd bod 177 o welliannau i'r Bil.  Pan fydd yr adroddiad ar gael bydd angen i'r aelodau ystyried unrhyw newidiadau ychwanegol sy'n ofynnol cyn i'r Bil fynd drwy unrhyw gamau pellach.  Dywedodd y Cadeirydd hefyd y gallai cryn dipyn o amser fynd heibio cyn y caiff ei basio a'i roi ar waith.

 

 

 

5.      Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus am y Safonau Gwybodaeth Hygyrch

 

Dywedodd Rachael Earp wrth yr aelodau bod y Safonau Hygyrch wedi eu lansio ym mis Rhagfyr.  Diben y safonau yw grymuso unigolion pan fyddant yn cael gofal sylfaenol neu eilaidd yn y GIG.  Mae Action on Hearing Loss (AOHL) wedi cynhyrchu cardiau gwybodaeth busnes bach i'w dosbarthu i'r cyhoedd a bydd yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut y gall aelodau o'r cyhoedd gael y wybodaeth ar wefan AOHL.

 

Dywedodd Richard Williams wrth yr Aelodau bod gan bob bwrdd iechyd grwpiau gorchwyl a gorffen, a'u bod eisoes wedi dechrau ymgorffori'r safonau.

 

Hefyd, dywedodd Michelle Fowler bod Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi llunio dogfen ynghylch yr arferion gorau o ran Canllawiau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a bydd y rhain yn cael eu lansio yn y Senedd ar 17 Mawrth.

 

Mynegodd Norman Moore ei bryderon am ddefnyddwyr cymhorthion clyw sy'n defnyddio cyfuniad o ddarllen gwefusau a chymhorthion clyw, a diffyg cyfathrebu da gan staff iechyd.  Mae angen iddynt ddefnyddio iaith symlach a llefaru'n gliriach.

 

Yn ogystal, dywedodd Jayne Dulson y bydd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn lansio pecyn arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn sef 'Fy mywyd fy iechyd' sy'n bennaf ar gyfer meddygon teulu, rhieni plant byddar, a phlant a phobl ifanc byddar.  Ar hyn o bryd mae ar gael ar wefan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, a chyn bo hir bydd ar gael yn Gymraeg.

 

Holodd Ross Evans pwy fydd yn monitro'r safonau.

 

Dywedodd Richard Williams mai safonau'r Llywodraeth ydynt, ac mai'r Arolygiaeth Gofal Iechyd a'r Cynghorau Cymuned fydd yn eu monitro.  Fodd bynnag, gobeithir mai'r cyhoedd yn gyffredinol fydd yn monitro'r safonau yn bennaf, a sicrhau bod y byrddau iechyd yn cadw atynt.

 

 

6.      Y wybodaeth ddiweddaraf am 'Gau'r Bwlch'

 

         Dywedodd Elin Wyn wrth yr Aelodau bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad y llynedd ynghylch ymgyrch Cau'r Bwlch sy'n amlygu'r gwahaniaeth yn y lefelau cyrhaeddiad rhwng disgyblion byddar a disgyblion sy'n gallu clywed.  Gall y gwahaniaeth fod mor uchel â 25%.  Mynegodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar bryderon bod posibilrwydd na fyddai'r diwygiadau i'r Bil Gweithlu Addysg gan gynnwys AAA, a drafodwyd yn wreiddiol yn ôl yn 2007, a'r Papur Gwyn, a oedd i gael ei gyhoeddi yn ystod y gwanwyn eleni, bellach yn cael eu cyflwyno tan dymor nesaf y Cynulliad.

 

         Cafwyd trafodaeth bellach gan yr aelodau am asesu plant, a'r prosesau sy'n gysylltiedig â hynny.

 

         Trafodwyd y mater hwn yn fanwl a dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cysylltu â'r Gweinidog i weld beth oedd y sefyllfa o ran y Bil AAA a'r adroddiad cynnydd ar y Bil Anghenion Ychwanegol.

 

 

7.      Y wybodaeth ddiweddaraf gan Aelodau'r Cynulliad

 

         Dywedodd Mark Isherwood y byddai'n mynychu digwyddiad Enabling Wales ar 11 Mawrth a fyddai'n cynnwys unigolion o Mynediad i Waith.

 

         Hefyd, soniodd Mark Isherwood am fenter newydd yr oedd wedi clywed amdani'n ddiweddar sef nod ansawdd mewn gwasanaethau i bobl fyddar a ddefnyddir gan gwmnïau gwasanaethau cyfreithiol.  Byddai ganddo ddiddordeb gwybod a ddefnyddir hyn mewn cwmnïau heblaw cwmnïau cyfreithiol, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y gellid ei ddefnyddio a thynnu sylw'r cyhoedd ato.

 

         Yn ogystal, dosbarthwyd ymatebion ynghylch byrddau iechyd.  Roedd yr aelodau yn dal i deimlo bod angen gwneud mwy a bod angen i wybodaeth fod ar gael yn hawdd ar eu gwefannau.

 

        

8.      Unrhyw fater arall

           

 

Rhif ffôn 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys

 

          Tynnodd Michelle Fowler-Powe sylw at broblemau parhaus a oedd yn ymwneud â'r rhif 101.  Roedd hi wedi ymweld â phedwar o glybiau gwahanol i bobl fyddar a ddywedodd wrthi na allent ddefnyddio'r gwasanaeth drwy gyfrwng negeseuon testun a bod rhaid iddynt gysylltu trwy TextDirect neu ofyn i aelod o'r teulu er mwyn defnyddio'r gwasanaeth.  Yn ogystal, dywedwyd wrthynt y gallent ddefnyddio system "Ein Bobi" ond mae problemau gyda hyn hefyd oherwydd gall gymryd hyd at wythnos i gael ymateb drwy'r gwasanaeth hwn.  Mae rhai o'r gymuned bobl fyddar wedi awgrymu defnyddio rhif 1011 fel gwasanaeth amgen.

 

          Hefyd, dywedodd Michelle Fowler-Powe bod Ap ar gael sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd, ond nad oedd yn addas i bobl fyddar, dim ond i bobl sy'n medru clywed.

 

          Dywedodd Michelle ei bod wedi trefnu cyfarfod ag un o Gomisiynwyr yr Heddlu i drafod anghenion pobl fyddar a'r rhif ffôn 101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.  Bydd yn sicrhau bod yr aelodau'n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

 

 

          Amseroedd aros awdioleg pediatrig

 

          Dywedodd Jayne Dulson bod archwiliadau safonau ansawdd pediatrig yn cael eu gwneud bob blwyddyn.  Erbyn mis Hydref y llynedd, yr oedd ymddangos bod y ffigurau ymhell islaw'r safonau gofynnol.  Fodd bynnag, yr oedd yn falch o ddweud bod llawer o waith wedi'i wneud yn gyffredinol ac ymddengys bellach bod hyn wedi gwella'n sylweddol.

 

          Bu'r aelodau yn trafod y mater hwn am beth amser.

 

 

          Sgiliau darllen gwefusau i bobl sydd wedi colli eu clyw

 

          Dywedodd Meryl Roberts fod 11 o fyfyrwyr yn aros i gwblhau'r cwrs y flwyddyn hon.  Mae dosbarthiadau'n cael eu sefydlu.  Ym Merthyr, un person arall sydd ei angen a gall y dosbarth ddechrau.  Cafwyd ymrwymiad y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal dosbarth rhagflas wyth wythnos, ac mae nifer o awdurdodau eraill yn awyddus i ddechrau.  Mae nifer ohonynt yn cynnal sesiynau rhagflas yn y gobaith y byddant yn parhau.

 

          Dywedodd Meryl Roberts mai'r broblem fwyaf ar hyn o bryd yw'r gost o ymaelodi â chwrs, a allai fod rhwng £30 a £60 am gwrs 8/10 wythnos.  Mae llawer o bensiynwyr oedrannus yn methu â fforddio talu am hyn o'u pensiynau.

 

          Trafododd yr aelodau y mater hwn, a daethpwyd i'r casgliad y dylid cysylltu â Colegau Cymru i weld a oes cyllid ar gael.

 

         

          Isdeitlo byw ar y teledu

 

          Dywedodd Norman Moore bod isdeitlo byw yn dal yn annerbyniol.  Mae’n llawn camgymeriadau a bylchau yn y wybodaeth.  Fodd bynnag, dywedodd Norman Moore wrth yr aelodau y cysylltwyd ag ef ddoe gan gwmni yn Lloegr a oedd hefyd yn cynhyrchu isdeitlau byw yng Nghymru, ynghylch adolygu’r isdeitlau. 

 

          Trafododd yr aelodau y mater hwn yn fanwl a daethpwyd i'r casgliad y dylai'r grŵp gysylltu â chwmnïau a thynnu sylw at y problemau o ran isdeitlo.

 

 

          Cylch gorchwyl grwpiau trawsbleidiol

 

          Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau fod y grŵp yn cydymffurfio â'r rheolau, ac y byddai cyfarfod cyffredinol blynyddol yn cael ei gynnal am 10 munud cyn cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar ym mis Mai.

 

 

9.      Cloi'r cyfarfod a dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar ym mis Mai - dyddiad i'w gadarnhau.